Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Mai 2020
Amser:
13.30 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6154
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Andrew RT Davies AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS. Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd a’r Môr
Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio
Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau
Keith Smyton, Pennaeth yr Adran Bwyd |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 a’i effaith y sector amaethyddiaeth, cyflenwi bwyd a lles anifeiliaid, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.
3.1Cafodd y papur ei nodi.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
6.1Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.